Elin Jones AS 
 Llywydd

Pwyllgor Newid Hinsawdd, 
 yr Amgylchedd a Seilwaith
 —
 Climate Change, Environment, 
 and Infrastructure Committee
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 SeneddHinsawdd@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddHinsawdd
 0300 200 6565
 —
 Welsh Parliament
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 SeneddClimate@senedd.wales
 senedd.wales/SeneddClimate
 0300 200 6565
 

 

 

 


11 Gorffennaf 2022

 

Annwyl Lywydd

Ysgrifennaf atoch yn eich rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes.

Ddydd Mawrth, darparodd y Prif Weinidog ei ddatganiad ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn seneddol nesaf. Cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Bil Plastigau Untro yn cael ei gyflwyno’n fuan. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi dangos diddordeb yn y pwnc hwn ers tro a byddwn yn disgwyl i’r Bil gael ei gyfeirio at y Pwyllgor maes o law. Wrth gyfeirio at y Bil, dywedodd y Prif Weinidog:

“Bydd y Bil hefyd yn cefnogi ein her gyfreithiol barhaus i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU. Yn yr ymgyfreitha presennol, a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, mae'r Llys wedi nodi y byddai'n ddefnyddiol ystyried enghraifft ymarferol, ar ffurf darn o ddeddfwriaeth yn y Senedd, y gellir ei defnyddio i roi prawf ar y materion dan sylw.  Bydd y Bil hwn yn darparu’r enghraifft ymarferol honno, ac yn y cyd-destun hwnnw byddwn yn ceisio cytundeb y Pwyllgor Busnes i gyflymu gwaith craffu’r Senedd.”

Hoffwn rannu rhai safbwyntiau cychwynnol ar y mater hwn gyda’r Pwyllgor Busnes.

Yn gyntaf, byddai’n anodd iawn i’r Pwyllgor Busnes benderfynu peidio â chyfeirio Bil i graffu arno heb weld y Bil dan sylw yn gyntaf. Mae Rheol Sefydlog 26.9 yn cydnabod hyn ac yn dweud:

“Pan fydd Bil wedi’i gyflwyno, rhaid i’r Pwyllgor Busnes benderfynu a ddylid cyfeirio’r ystyriaeth ar yr egwyddorion cyffredinol at bwyllgor cyfrifol”

Dim ond ar ôl i Fil gael ei gyflwyno y gall y Pwyllgor Busnes wneud penderfyniad o’r fath.

Yn ail, byddai’n ddefnyddiol pe gallai penderfyniad y Pwyllgor Busnes gael ei lywio drwy ymgynghori â’r pwyllgor cyfrifol dan sylw. Rwy’n awgrymu bod y Pwyllgor Busnes yn defnyddio’r amser rhwng cyflwyno’r Bil a’r pwynt pan fydd yn gwneud ei benderfyniad i ymgynghori â’r Pwyllgor cyfrifol.

Yn olaf, dylid nodi nad oes neb y tu allan i Lywodraeth Cymru yn ymwybodol o ddarpariaethau manwl y Bil ar hyn o bryd. Cynhaliwyd ymgynghoriad tua 20 mis yn ôl (rhwng 30 Gorffennaf a 22 Hydref 2020) ar gynigion i wahardd rhai plastigau untro ond nid yw’r ymatebion wedi’u cyhoeddi. Fel y mae ar hyn o bryd, proses graffu Cyfnod 1 fyddai’r unig gyfle i ymgynghori â rhanddeiliaid a’r cyhoedd ar y darpariaethau manwl yn y Bil.

Cefais wahoddiad i gwrdd â’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn gynharach heddiw i drafod yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil. Yn ystod y cyfarfod, ymrwymodd y Gweinidog i ystyried a ellid cyhoeddi’r Bil ar ffurf drafft yn ystod toriad yr haf. Os yw hynny’n bosibl, byddai’n galluogi Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (yn amodol ar gytundeb yr Aelodau) i gynnal ymgynghoriad cyfyngedig dros yr haf i’w ddilyn, o bosibl, gyda sesiynau tystiolaeth lafar yn gynnar yn yr hydref. O ystyried y byddai rhywfaint o waith craffu eisoes yn mynd rhagddo, efallai y byddai’r Pwyllgor Busnes yn teimlo y byddai’n briodol cytuno ar amserlen fyrrach ar ôl i’r Bil gael ei gyflwyno, ac, wrth gwrs, ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

Rwy’n gobeithio bod hyn yn ddefnyddiol ac yn darparu ateb sy’n arwain at rywfaint o ymgynghori cyhoeddus a chraffu gan y pwyllgor ar y Bil.

Yn gywir

Text, letter  Description automatically generated

Llyr Gruffydd AS

Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

 

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.